English
Rydych chi yma: Adref > Gwasanaethau > Copi

Gwasanaethau

Archif Eisteddfod Genedlaethol Cymru


Bellach, cedwir a diogelir archif deledu'r Eisteddfod Genedlaethol o 1999 ymlaen gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Golyga hyn fod holl ddigwyddiadau'r Pafiliwn a'r Babell Lên ar gof a chadw. Bydd modd i bobl sydd wedi cofrestru'n ddarllenwyr wylio'r deunydd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Hefyd gall cystadleuwyr, perfformwyr, teuluoedd a ffrindiau brynu copi o gystadleuaeth neu seremoni at ddefnydd preifat yn unig. Bydd gan COPI bresenoldeb ar Faes yr Eisteddfod.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â copi@llgc.org.uk